Ffurflen Adborth Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd
Yn Belltown Power, rydym yn cydnabod bod ymgynghori cynnar yn rhan sylfaenol o ddatblygu prosiectau da er mwyn sicrhau bod cymunedau lleol a rhanddeiliaid yn cael y cyfle i roi adborth ac yn cael gwybod am gynnydd prosiect.
Fel rhan o'r broses ymgynghori hon, fe wnaethom rannu gwybodaeth am y prosiect ar gyfer Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd mewn arddangosfa gyhoeddus ym mis Mehefin 2023.
Bydd yr arddangosfa Ymgynghori Cyn Ymgeisio – sy'n dangos y newidiadau rydym wedi'u gwneud – ar gael yma o dydd Mawrth 30 Medi 2025.
Cwblhewch ffurflen adborth ar ôl i chi weld yr ail arddangosfa, cyn diwedd yr Ymgynghori Cyn Ymgeisio ar 29 Hydref 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, anfonwch e-bost at y tîm yn waunmaenllwyd@belltownpower.com .
Diolch am eich diddordeb a’ch cyfraniad.
Byddwn yn defnyddio’ch data personol a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn at ein dibenion busnes cyfreithlon, gan gynnwys:
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gynhwyswch yn y ffurflen hon yn cael ei thrin a’i defnyddio gan (neu ei gwneud ar gael i) y derbynwyr canlynol i gofnodi, dadansoddi ac adrodd ar yr adborth a dderbyniwn:
Pa hawliau sydd gen i dros fy nata personol?
O dan delerau GDPR y DU, mae gennych rai hawliau ynghylch sut mae Belltown Power yn cadw a defnyddio’ch data personol. Am fwy o wybodaeth, gweler ein datganiad polisi preifatrwydd llawn yn https://belltownpower.com/uk/belltown-power-privacy-policy .
Nid yw sylwadau a wneir drwy’r ffurflen adborth hon yn sylwadau a roddir i Lywodraeth Cymru. Bydd cyfle i gyflwyno sylwadau ar Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd i Lywodraeth Cymru unwaith y bydd cais wedi’i gyflwyno gan yr ymgeisydd.